Rupert Cornwell oedd un o sylfaenwyr The Independent yn 1986
Mae’r gohebydd tramor Rupert Cornwell wedi marw yn Washington ar ôl bod yn dioddef o ganser, yn ôl y papur newydd The Independent.
Roedd yn un o sylfaenwyr y papur hwnnw yn 1986, ac yn ohebydd tramor am fwy na 40 mlynedd.
Yn ystod ei yrfa, fe dreuliodd 21 o flynyddoedd yn yr Unol Daleithiau, ac fe weithiodd ym Mharis, Brwsel, Rhufain, Bonn, Mosgo a Washington.
Fe fu’n gweithio am gyfnod gyda Reuters a’r Financial Times.
Dywedodd golygydd The Independent, Christian Broughton ei fod e’n “newyddiadurwr oes ramantaidd aeth heibio” ond ei fod e hefyd yn “ysbrydoliaeth i genedlaethau” o weithwyr yr Independent.
Ei hanner brawd yw John Le Carre.