Llun: PA
Fe fyddai’n rhaid i Alban annibynnol gynyddu trethi neu leihau gwariant, yn ôl economegydd blaenllaw.
Fe fyddai’r wlad hefyd dan bwysau gwleidyddol i fabwysiadu’r ewro er mwyn cael bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, meddai Paul Johnson Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid.
Mae gwariant cyhoeddus £1,000 yn fwy y pen yn yr Alban o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig er bod refeniw trethi yn debyg, meddai.
O ganlyniad i hyn mi fyddai’r Alban fel gwlad annibynnol yn wynebu’r her o orfod “cwtogi gwariant o dros £1,000 y pen neu gynyddu trethi o fwy na £1,000 y pen.”
Mae’r economegydd hefyd yn dadlau byddai’n anoddach i’r Alban gadw’r bunt os yw’r DU y tu allan i’r UE a’r Alban yn aros yn aelod o’r Undeb ac fe fyddai “pwysau sylweddol” gan weddill yr Undeb Ewropeaidd i ymuno a’r ewro.
Ychwanegodd bod y cwymp ym mhris olew yn golygu bod yr Alban yn wynebu sefyllfa ariannol wahanol iawn o gymharu â refferendwm annibyniaeth 2014.
Mae’n debyg bod Brexit wedi cymhlethu’r sefyllfa ymhellach oherwydd petai’r Alban yn parhau i fod yn aelod o’r farchnad sengl heb weddill y Deyrnas Unedig, mi fyddai masnach gyda’i phartner mwyaf yn dioddef.