Mae’r heddlu wedi cael rhagor o amser i holi dynes 50 oed ar amheuaeth o lofruddio dyn 75 oed yn Aldershot yn Swydd Hampshire.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r ardal am 5.30pm nos Wener lle daethon nhw o hyd i gorff y dyn mewn tŷ.
Cafodd y ddynes 50 oed ei harestio ar amheuaeth o lofruddio’r dyn, o geisio llofruddio ac o gaethiwo anghyfreithlon.
Mae gan yr heddlu tan brynhawn fory i’w holi.
Mae marwolaeth y dyn yn cael ei thrin fel un nad oes eglurhad yn ei chylch.