Mae cwmni ynni E.On wedi cyhoeddi y bydd yn cynyddu prisiau i gwsmeriaid sy’n talu am drydan a nwy ar y cyd o 8.8% ar gyfartaledd o 26 Ebrill.

Dywed y cwmni y bydd eu prisiau trydan yn cynyddu o tua 13.8% a phrisiau nwy o tua 3.8% “yn bennaf oherwydd cynnydd mewn costau polisi a chostau eraill sydd ddim yn cael eu rheoli gan E.On.”

Fe allai 2.5 miliwn o gwsmeriaid E.On, sef 62%, weld cynnydd posib yn eu biliau os nad ydyn nhw’n gweithredu cyn 26 Ebrill, meddai’r cwmni.

Dywedodd prif weithredwr E.On yn y DU, Tony Cocker, mai dyma’r tro cyntaf ers mis Ionawr 2014 i’r cwmni gynyddu eu prisiau.

Daw cyhoeddiad E.On yn dilyn cyfres o gyhoeddiadau tebyg yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae Npower, EDF a Scottish Power  ymhlith y rhai sydd wedi cyhoeddi eu bod yn cynyddu eu biliau.