Heddlu gwrth-frawychiaeth Llun: PA
Mae’r gwasanaethau diogelwch wedi atal 13 o ymosodiadau brawychol posib yn y Deyrnas Unedig mewn llai na phedair blynedd, meddai uwch-swyddog gwrth-frawychiaeth Prydain.

Maen nhw hefyd yn cynnal 500 o ymchwiliadau ar unrhyw adeg, meddai Mark Rowley.

Daeth ei sylwadau wrth iddo lansio apêl yn galw ar y cyhoedd i adrodd unrhyw weithgareddau amheus, gan ddweud bod eu cymorth yn hanfodol i atal ymosodiadau posib.

Dywedodd Mark Rowley, Dirprwy Gomisiynydd adran wrth-frawychiaeth Heddlu Metropolitan, bod yr heddlu ac asiantaethau cudd-wybodaeth wedi atal 13 ymosodiad brawychol posib ers mis Mehefin 2013.