Fe gafodd bil Llywodraeth San Steffan ar ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd ei basio’n ddigon hawdd yn ei brawf cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin nos Fercher.

Fe bleidleisiodd Aelodau Seneddol o blaid y mesur i roi’r hawl i Theresa May ddechrau trafodaethau Brexit o 498 o bleidleisiau i 114.

Bydd y Mesur bellach ym mynd gerbron pwyllgorau Tŷ’r Cyffredin rhwng dydd Llun a dydd Mercher nesaf, lle bydd Aelodau Seneddol yn craffu arno ac yn cynnig gwelliannau.

Tra bod yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi gorchymyn ei ASau i gefnogi’r Mesur, y disgwyl yw y bydd ei blaid yn ceisio ychwanegu gwelliannau ato wythnos nesaf.

Gwelliannau

Mae’r gwelliannau’n cynnwys sicrhau bod gan Aelodau Seneddol y bleidlais gyntaf ar unrhyw gynnig sy’n dod o’r trafodaethau rhwng San Steffan a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae cynigion i sicrhau hawliau cyfreithiol i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd eisoes yn byw yng ngwledydd Prydain, diogelu hawliau gweithwyr a chadw mynediad at y farchnad sengl i gyd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn y Tŷ.

Nod y Democratiaid Rhyddfrydol yw sicrhau ail refferendwm yn dilyn y trafodaethau a byddan nhw’n pleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50 os na fydd hyn yn cael ei gyflawni.

Ac mae disgwyl i’r SNP, ynghyd â Phlaid Cymru, gynnig dwsinau o welliannau.

Gall hyd yn oed aelodau meinciau cefn y Torïaid geisio newid y bil, p’un a ydyn nhw’n gefnogol o Brexit ai peidio.

Tŷ’r Arglwyddi

Mae disgwyl trydydd darlleniad ar y Mesur ar Chwefror 8, cyn iddo gael ei drosglwyddo i’r Ail Dŷ, er mwyn i’r Arglwyddi gael graffu arno.

Gyda chefnogaeth y Blaid Lafur yn Nhŷ’r Cyffredin, gall Theresa May fod yn weddol hyderus y bydd y mesur yn cael ei basio heb unrhyw broblemau mawr.

Ond yn Nhŷ’r Arglwyddi, mae’r stori’n wahanol, gan nad oes gan y Llywodraeth fwyafrif yn y fan yno.

Mae Llafur yn yr Ail Dŷ eisoes wedi dweud na fyddai’n blocio cynlluniau Brexit y Llywodraeth, ond mae rhai o’i Harlgwyddi wedi dweud bod nhw yn erbyn hynny.

Mae disgwyl i’r Arglwyddi orffen trafod y bil erbyn Mawrth 7, ond os ydyn nhw wedi gwneud gwelliannau iddo, bydd yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin, lle bydd Aelodau Seneddol yn eu trafod.