Nid yw’r cyfleusterau mewn lletyai ar gyfer ceiswyr lloches yn y Deyrnas Unedig o safon ddigonol, yn ôl adroddiad gan aelodau seneddol.

Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Materion Cartref mae ceiswyr lloches ym Mhrydain yn byw mewn tai llawn pryfed a llygod mawr.

Gwnaeth y comisiwn ddarganfod bod nifer o awdurdodau lleol ddim yn cymryd rhan yn y cynllun o gynnig lloches i ffoaduriaid ac mae aelodau seneddol wedi awgrymu dylai’r Llywodraeth eu gorfodi i wneud hyn.

O fewn yr ardaloedd lle mae lloches yn cael ei gynnig yn aml mae ceiswyr lloches  yn cael eu gosod yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

“Gwarthus”

“Mae cyflwr ein darpariaeth lletya ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn y wlad yma yn warthus” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Yvette Cooper.

“Rydym wedi dod ar draws gormod o enghreifftiau o letyau anniogel: plant yn byw â llygod, diffyg gofal iechyd i fenywod beichiog, cymorth annigonol i ddioddefwyr trais ac artaith.”

Y darparwyr

Ers 2012 mae tri chwmni wedi bod yn gyfrifol am ddarparu lletyau i geiswyr lloches sef Serco, G4S a Clearsprings Ready Homes.

“Ers Tachwedd 2013, dydyn ni ddim wedi ein cosbi am safon ein darpariaeth gan ein bod yn delio â degau o filoedd o ddiffygion pob blwyddyn er mwyn cyrraedd y safon ofynnol,” meddai Pennaeth Mewnfudo a Ffiniau G4S, John Whitman.