Morlyn llanw Abertawe
Mae Llywodraeth Prydain wedi gwadu ei bod yn “llusgo traed” ar gynllun ynni llanw’r môr.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw am botensial ynni llanw i Gymru fe wnaeth Aelod Seneddol Llafur Stephen Doughty sy’n cynrychioli De Caerdydd a Phenarth, gyhuddo’r Llywodraeth o “lusgo eu traed”.

Fe wnaeth y cyn-Weinidog Ynni, Charles Hendry, gyhoeddi adolygiad yn gynharach y mis hwn yn cefnogi’r dechnoleg ac yn annog sefydlu prosiect ynni llanw ym Mae Abertawe.

Er argymelliadau’r adolygiad hyd yn hyn nid yw’r Llywodraeth wedi ymrwymo i unrhyw brosiectau.

“Ystyriaeth ofalus”

“Does dim awgrym bod yr adran yn llusgo ei thraed,” oedd ymateb y Gweinidog Ynni Nick Hurd i’r cyhuddiad gan ategu bod “rhaid ystyried y mater ar sail popeth, nid ar sail agweddau positif prosiect Bae Abertawe yn unig.”

Wedi i lefarydd ynni’r wrthblaid, Clive Lewis,  dynnu sylw at argymhelliad Adolygiad Hendry y dylai gweinidogion ariannu prosiect cychwynnol “cyn gynted â phosib,” dywedodd Nick Hurd bod y Llywodraeth am “ystyried yn ofalus” cyn gweithredu.

Yn ôl Adolygiad Hendry, fe fyddai’r morlynnoedd yn defnyddio’r tonnau i gynhyrchu trydan ac yn costio llai na ffermydd gwynt ar y môr, a phŵer niwclear dros gyfnod o 60 mlynedd.