Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae angen i gynghorau cymunedol yng Nghymru wella rheolaeth ariannol a llywodraethu, yn ôl adroddiad gafodd ei gyhoeddi heddiw.

Mae’n “destun pryder” bod 200 o gynghorau cymunedol yn derbyn barn archwilio amodol y gellid ei hosgoi, meddai adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas.

Dyma’r pumed ymchwiliad blynyddol i reolaeth ariannol a llywodraethu dros 735 o gynghorau cymunedol ledled Cymru.

Mae cynghorau cymunedol ar hyn o bryd yn gyfrifol am dros £43 miliwn o arian cyhoeddus ac mae’n debygol y bydd y symiau o arian cyhoeddus maen nhw’n ei reoli yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf, meddai’r adroddiad.

“Pryder”

Meddai Huw Vaughan Thomas: “Mae’r atebolrwydd a’r craffu a ddaw yn sgil defnyddio arian cyhoeddus yn mynd yn dynnach o hyd.

“Mae cynghorau cymunedol yn gyfrifol am dros £43 miliwn o arian ac mae rhagor o gyfrifoldebau yn debygol o gael eu datganoli iddynt.

“Mae’n destun pryder i weld bod nifer o gynghorau yn derbyn barn amodol, y gellid yn hawdd ei hosgoi, ac rwyf yn eu hannog i edrych i mewn i’w harferion presennol er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r archwiliad pan ddaw adolygiad 2016-17.”

‘Rhan gynyddol bwysig’

Meddai Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Nick Ramsay:  “Fel yr haen o lywodraeth sydd agosaf at y cymunedau y maent yn eu cynrychioli, mae gan gynghorau cymuned ran gynyddol bwysig i’w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

“Maent yn rheoli symiau sylweddol o arian cyhoeddus a bydd hyn yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf.

“Mae’n hanfodol bod gan y cynghorau hyn drefniadau cadarn ac effeithiol ar waith o ran rheolaeth ariannol a llywodraethu.

“Er bod llawer o gynghorau wedi gwneud trefniadau i’r perwyl hwn, mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn dangos bod llawer o waith i’w wneud i godi safonau rheolaeth ariannol a llywodraethu ar draws y sector.”