Theresa May yn cwrdd a Donald Trump yn yr Unol Daleithiau wythnos ddiwethaf Llun: PA
Fe fydd ymweliad Donald Trump a’r Deyrnas Unedig yn mynd rhagddo er gwaetha’r gwrthwynebiad chwyrn i’w waharddiad ar deithwyr o wledydd Mwslimiaid a ffoaduriaid rhag teithio i’r Unol Daleithiau.

Mae Downing Street wedi dweud nad yw wedi newid ei safiad ynglŷn ag ymweliad Arlywydd yr Unol Daleithiau wrth i Theresa May ddod dan bwysau cynyddol i israddio neu ganslo’r daith.

“Mae gwahoddiad wedi cael ei estyn a’i dderbyn,” meddai llefarydd ar ran Rhif 10 gan bwysleisio nad yw’r cynlluniau wedi newid.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin  prynhawn ma ynglŷn â’r gwaharddiad dadleuol yn sgil pryder cynyddol am yr effaith ar Brydeinwyr yn ogystal â’r modd mae’r Llywodraeth wedi ymateb.

Mae disgwyl i Donald Trump ymweld â Phrydain yn ddiweddarach eleni gan gwrdd â’r Frenhines.

Ond mae miliwn o bobl bellach wedi arwyddo deiseb yn datgan na ddylai Donald Trump barhau a’i ymweliad.

Neges “hollol anghywir”

Mae disgwyl i Boris Johnson ddod dan bwysau gan Geidwadwyr ac ASau’r gwrthbleidiau i geisio cyfiawnhau’r ymweliad.

Dywedodd y Farwnes Warsi, y gweinidog benywaidd Mwslimaidd cyntaf yn y cabinet, na ddylai’r Arlywydd gael y fraint o gael ei groesawu yma yn y fath fodd.

“Mae’n rhaid i ni ofyn, a yw hyn yn rhywbeth y dylai Prydain fod yn ei wneud i ddyn sydd a dim parch tuag at fenywod, dirmyg tuag at leiafrifoedd, ychydig iawn o barch tuag at gymunedau LGBT, dim cydymdeimlad tuag at bobl fregus, ac sydd â pholisïau sy’n achosi rhwyg ymhlith pobl.”

Ychwanegodd bod hyn yn anfon neges “hollol anghywir.”

Dywed y Swyddfa Dramor y bydd Prydeinwyr sydd â dinasyddiaeth ddeuol yn cael eu heithrio o’r gwaharddiad dadleuol.