Llun: PA
Mae’r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi galw targed Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn “freuddwyd wag,” os na fydd cynlluniau addysg Gymraeg awdurdodau lleol Cymru’n gwella.

Yn ôl y mudiad, mae cynlluniau drafft rhai o Awdurdodau Lleol Cymru i ddatblygu Addysg Gymraeg yn eu siroedd yn “annigonol ac yn ddi-uchelgais.”

Am hynny, mae’r mudiad wedi galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, i wrthod y rhan fwyaf o’r cynlluniau hynny gan ofyn iddynt ail-lunio’r cynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Gwendidau

Yn ôl y mudiad, mae’r gwendidau’n cynnwys: diffyg targedau, ychydig o fanylion am sut i ddarparu mwy o leoedd addysg Gymraeg, diffyg pwyslais ar hyrwyddo addysg Gymraeg i symbylu twf a chyflwyno’r manteision i rieni.

Maen nhw hefyd yn dweud fod angen cynnwys addysg Gymraeg fel maen prawf yn rhaglen cyllid cyfalaf Ysgolion 21ganrif.

“O ystyried mai oddeutu 22% o blant 7 oed sy’n derbyn addysg Gymraeg ar hyn o bryd, breuddwyd wag yw cyfrannu mewn modd ystyrlon at y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” meddai llefarydd ar ran Rhieni dros Addysg Gymraeg.

‘Gwan, cyffredinol ac amwys…’

“Mae RhAG yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarn i hyn, ac yn pwyso ar y Gweinidog Addysg i ddefnyddio’r grymoedd sydd yn ei feddiant i wrthod Cynlluniau gwan, cyffredinol ac amwys,” meddai Lynne Davies, Cadeirydd y mudiad.

“Rhaid rhoi neges glir na fydd diffyg cydymffurfiaeth yn dderbyniol er mwyn cymryd y cyfle i droi consensws ac ewyllys wleidyddol genedlaethol yn gweithredu o ddifrif ar lawr gwlad yn ystod ail gylch y Cynlluniau hyn,” meddai wedyn.