Mae eira trwm a gwyntoedd cryfion wedi arwain at broblemau trafnidiaeth ledled gwledydd Prydain, gan achosi i nifer o deithiau o faes awyr mwya’ gael eu canslo.

Yn Maes awyr Heathrow yn Llundain bu’n rhaid canslo 80 o deithiau oherwydd cyfuniad o eira trwm a gwyntoedd cryfion, ac mae gwasanaethau fferi wedi eu heffeithio yn yr Alban.

Mae Pont Forth sydd yn cysylltu Caeredin a Fife wedi ail agor wedi iddi fod ar gau trwy ddydd Mercher, pan wnaeth lori cael ei chwythu drosodd gan ddifrodi’r strwythur.

Rhybuddion tywydd

Yn yr Alban, Iwerddon a rhannau o Loegr mae’r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybudd melyn oherwydd y tywydd garw sydd wedi ei achosi gan fas o aer polar sydd wedi teithio o ogledd Canada i’r Deyrnas Unedig.

Mae trefi arfordirol yn paratoi am dywydd garw yn enwedig yn nwyrain Lloegr, gyda 38 rhybudd llifogydd wedi eu datgan.