Yn ddiau, mae 2016 wedi bod yn flwyddyn dyngedfennol i ddyfodol gwleidyddiaeth yng ngwledydd Prydain, yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Daeth Theresa May yn Brif Weinidog ar ôl i David Cameron ymddiswyddo yn sgil canlyniad y refferendwm, ac mae galw o hyd gan rai oedd o blaid aros i gynnal ail refferendwm. A beth am ddyfodol yr Alban, oedd wedi pleidleisio dros aros yn Ewrop? A fydd ail refferendwm annibyniaeth yn y fan honno yn 2017?
Roedd UKIP yn disgwyl gwneud cynnydd ar ôl eu hymgyrch lwyddiannus cyn refferendwm Ewrop, ond rhygnu ymlaen mae’r ffrae tros yr arweinyddiaeth. Mae Diane James wedi mynd a dod, a Nigel Farage yn mynd a dod o hyd ac o hyd.
Faint ydych chi’n ei gofio, tybed, am y prif benawdau ledled Prydain dros y deuddeg mis diwethaf?
Atebion
1. Pwy neu beth achosodd bryder ym mis Hydref ar ôl dianc yn Llundain?
Ateb: Gorila
29 stôn oedd pwysau Kumbuka, y gorila a ddihangodd o Sŵ Llundain ym mis Hydref. Cafodd ymwelwyr dipyn o ofn wrth iddyn nhw gael cyngor i guddio tra bod staff yn ceisio’i ddal. Fe gafodd ei ddal yn eitha’ cyflym, ond fe alwodd y Born Free Foundation am ymchwiliad, gan dynnu sylw at beryglon cadw anifeiliaid yn gaeth. 65% ohonoch chi atebodd yn gywir, gyda 33% yn mynd am y llewpart. Dim ond 1% ohonoch chi, diolch byth, a ddywedodd mai Boris Johnson oedd yr ateb cywir!
2. Beth yw enw’r nyrs oedd yn destun gwrandawiad disgyblu ym mis Medi ond a gafwyd yn ddieuog o gelu ei bod yn dioddef o Ebola?
Ateb: Pauline Cafferkey
Ym mis Rhagfyr 2014, fe gafodd Pauline Cafferkey, 40 oed, ei heintio ag Ebola wrth weithio fel gweithiwr meddygol yn Sierra Leone. Wedi hynny, fe gafodd y nyrs ei chyhuddo o gelu gwybodaeth am ei chyflwr gan ganiatáu i wiriadau is o’i thymheredd gael eu cofnodi wrth iddi ddychwelyd o’r wlad yng ngorllewin Africa i faes awyr Heathrow. Ond cafodd y panel gyngor ym mis Medi i benderfynu nad oedd hi wedi ymddwyn yn anonest. 64% ohonoch chi atebodd yn gywir.
3. Pa ganran o bobol gwledydd Prydain a bleidleisiodd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd?
Ateb: 48%
Fawr o drafferth gawsoch chi wrth ateb y cwestiwn hwn, gydag 87% ohonoch chi’n cynnig yr ateb cywir. Roedd y canlyniad ar fore Mehefin 24 yn dipyn o sioc, a’r sioc yn parhau hyd heddiw wrth i wledydd Prydain barhau i ddyfalu beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig. Cawn weld yn fuan, wrth i Brif Weinidog Prydain, Theresa May addo dod i gytundeb i ddechrau’r broses ffurfiol dros y misoedd nesaf.
4. Ble mae pencadlys Sports Direct, sydd wedi cael eu beirniadu eleni am y ffordd maen nhw’n trin eu staff?
Ateb: Chesterfield
Cwmni cadeirydd clwb pêl-droed Newcastle, Mike Ashley yw Sports Direct. Ond mae’r pencadlys yn Chesterfield yn Swydd Derby. Cafodd y cwmni ei feirniadu eleni ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod staff yn anfodlon â’r amodau gwaith a’r cyflogau sy’n cael eu cynnig. Ac roedd ffrae eto ar ôl i gamerâu cudd gael eu darganfod ar hambwrdd brechdanau yn ystod ymweliad aelodau seneddol â’r safle. Dim ond 12% ohonoch chi atebodd yn gywir y tro hwn. Roedd 31% ohonoch chi’n credu mai yn Sheffield mae’r pencadlys, 29% yn Derby a 28% yn Nottingham.
5. Ym mha sir mae Orgreave, lle cafwyd terfysgoedd yn ystod Streic y Glowyr yn 1984?
Ateb: De Swydd Efrog
Ynghyd â Hillsborough, roedd Orgreave yn y penawdau dipyn yn 2016 yn dilyn rhagor o gyhuddiadau a honiadau am ymddygiad plismyn wrth geisio tawelu glowyr yn ystod protestiadau yn 1984. Ond fe achosodd yr Ysgrifennydd Cartref newydd, Amber Rudd gryn ddadlau ar ôl cyhoeddi na fyddai ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal, yn wahanol i helynt Hillsborough. Atebodd 46% ohonoch chi’n gywir.
6. Am ba hyd roedd Diane James yn arweinydd UKIP eleni?
Ateb: 18 diwrnod
Rhesymau proffesiynol a phersonol a gafodd eu cynnig am ymddiswyddiad yr arweinydd ar ôl 18 diwrnod ym mis Hydref. Dywedodd ar y pryd ei bod hi’n teimlo nad oedd ganddi’r awdurdod oedd ei angen i gyflwyno newidiadau i’r blaid yn ystod cyfnod cythryblus. Ond awgrymodd hi, yn rhyfedd iawn, nad oedd hi wedi derbyn y swydd yn ffurfiol beth bynnag, ac felly nad oedd hi’n ymddiswyddo go iawn.
Atebion cywir: 72%
7. Pam fod Steven Woolfe wedi cael ei atal rhag sefyll fel ymgeisydd i arwain UKIP?
Ateb: Am iddo gyflwyno’i enwebiad yn rhy hwyr
Un arall o ffigurau dadleuol UKIP eleni oedd Steven Woolfe, oedd yn y penawdau ddwywaith am y rhesymau anghywir. Fe gafodd ei hun yn yr ysbyty ym Mrwsel, gyda honiadau ei fod e wedi bod yn ymladd yn Senedd Ewrop â Mike Hookem – ie, enw priodol iawn!
Ond ym mis Awst, fe gafodd ei atal rhag sefyll i fod yn arweinydd y blaid ar ôl cyflwyno’i enwebiad 17 munud yn hwyr. 60% ohonoch chi atebodd yn gywir, gyda 30% ohonoch chi’n credu mai’r ffrwgwd oedd asgwrn y gynnen.
8. Cafodd gwesty hynaf gwledydd Prydain, y Royal Clarence, ei ddinistrio gan dân eleni. Ym mle mae’r gwesty?
Ateb: Dyfnaint
Yng Nghaerwysg mae’r Royal Clarence, â bod yn fanwl gywir. Ffrwydrodd peipen nwy yn y gwesty, ac fe ledodd y fflamau i dafarn gyfagos, sy’n dyddio o’r ddeunawfed ganrif. Fe fu hyd at 150 o ddiffoddwyr yn ceisio rheoli’r fflamau.
Atebion cywir: 60%
9. Mae sylfaenydd Wikileaks, Julian Assange yn cael ei warchod gan lysgenhadaeth pa wlad yn Llundain?
Ateb: Ecwador
Mae Julian Assange yn ofni y gallai wynebu cyhuddiadau o gyflawni troseddau rhyw pe bai’n cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau. Mae e yn Llundain ers pedair blynedd, ac yn cael ei warchod yn adeilad y llysgenhadaeth am gyfnod amhenodol.
Atebion cywir: 67%
10. Bydd cerflun o ba actores/gomedïwraig yn cael ei godi yn nhref Bury yn dilyn ei marwolaeth eleni?
Ateb: Victoria Wood
Roedd Victoria Wood yn un o farwolaethau amlycaf blwyddyn hunllefus i enwogion yn 2016. Cafodd pleidlais gyhoeddus ei chynnal yn ei thref enedigol wrth i’w brawd arwain ymgyrch i godi cofeb iddi. Roedd gan y cyhoedd ddewis o ddau gymeriad – Bren o ‘Dinnerladies’ neu ‘Kimberley’s Friend’.
Atebion cywir: 75%
11. Daeth partneriaeth 90 mlynedd rhwng y BBC a phwy i ben eleni?
Ateb: Y Swyddfa Dywydd
Daeth cadarnhad ym mis Awst fod y cytundeb rhwng y BBC a’r Swyddfa Dywydd yn dod i ben, a MeteoGroup yn cymryd at y gwaith yn 2017. Daeth y penderfyniad ar ôl sawl camgymeriad amlwg dros y blynyddoedd diwethaf.
Atebion cywir: 70%
12. Theresa May a pha ddynes arall oedd y ddwy olaf yn y ras i fod yn Brif Weinidog Prydain yn dilyn ymddiswyddiad David Cameron?
Ateb: Andrea Leadsom
Daeth cadarnhad ym mis Gorffennaf mai Theresa May fyddai Prif Weinidog nesaf Prydain ar ôl i Andrea Leadsom dynnu ei henw yn ôl, gan gredu nad oedd ganddi ddigon o gefnogaeth ymhlith aelodau seneddol Ceidwadol i guro’r Ysgrifennydd Cartref ar y pryd. Michael Gove, Stephen Crabb a Boris Johnson oedd y tri arall yn y ras.
Atebion cywir: 79%
Blwyddyn Newydd Dda – a phob hwyl i holl ddarllenwyr Golwg360 yn 2017.