Mae’r Groes Goch yn cynnig cymorth i Wasanaeth Iechyd Lloegr, wrth iddyn nhw wynebu “argyfwng dyngarol” oherwydd y tywydd gaeafol diweddar.
Mae’r ffigurau diweddara’n dangos bod adrannau brys yn Lloegr wedi cau eu drysau i’r cyhoedd mwy na 140 o weithiau fis diwethaf.
Ddydd Gwener, daeth rhybudd fod mwy na thraean o fyrddau iechyd Lloegr wedi dweud bod angen iddyn nhw fabwysiadau camau arbennig er mwyn gallu ymdopi, gyda saith ohonyn nhw’n methu cynnig gofal cynhwysfawr.
Yn y cyfamser, fe ddaeth i’r amlwg fod cyfrifiaduron Gwasanaeth Ambiwlans Llundain wedi torri ar Nos Calan, gyda galwadau’n gorfod cael eu cofnodi ar bapur.
Mae Gwasanaeth Iechyd Lloegr yn apelio ar y cyhoedd i ddefnyddio fferyllfeydd a llinell gymorth 111 am gyngor meddygol am y tro.
‘Cywilydd’
Mae llefarydd iechyd y Blaid Lafur, Jonathan Ashworth wedi dweud ei bod yn destun “cywilydd” fod y Groes Goch wedi cael eu galw i gynnig cymorth i’r Gwasanaeth Iechyd.
“Dylai’r ffaith fod y Groes Goch yn galw’r sefyllfa’n “argyfwng dyngarol” fod yn fathodyn cywilydd i weinidogion y Llywodraeth,” meddai.
Yn ôl prif weithredwr y Groes Goch, Mike Adamson, dylid sicrhau bod arian ychwanegol ar gael i helpu’r drefn bresennol.
“Mae’r Groes Goch ar y rheng flaen, gan ymateb i’r argyfwng dyngarol yn ein gwasanaethau ysbytai ac ambiwlansys ledled y wlad.
“Ry’n ni wedi cael ein galw i mewn i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd a helpu i gael pobol adre o’r ysbyty i ryddhau gwelyau y mae cryn alw amdanyn nhw.”
Ddydd Gwener, daeth cadarnhad fod Ymddiriedolaeth GIG Swydd Gaerwrangon yn ymchwilio i farwolaethau dau glaf yn adran frys Ysbyty Caerwrangon yr wythnos diwethaf.
Bu farw dynes oedd wedi bod ar droli mewn coridor, a bu farw claf arall ar ôl cael trawiad ar droli arall yn yr un adran, ar ôl aros am 35 awr am wely.
Mae’r ymddiriedolaeth hefyd yn ymchwilio i farwolaeth trydydd claf yn ystod yr un cyfnod rhwng nos Sadwrn a dydd Mawrth diwethaf.
Daeth cadarnhad hefyd fod 143 o gleifion wedi cael eu harallgyfeirio rhwng Rhagfyr 1 a Ionawr 1, rhywbeth y dylid ei wneud dim ond fel ateb terfynol. Roedd hyn yn gynnydd o 63% o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Mae llywydd y Coleg Brenhinol Meddyginiaeth Frys, Dr Taj Hassan wedi rhybuddio bod y system gofal brys “ar ei gliniau”.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Llundain yn cynnal ymchwiliad i’r trafferthion dros gyfnod y Flwyddyn Newydd.