(llun: PA)
Mae meddyg blaenllaw’n rhybuddio y gall cleifion orfod aros am wythnosau i weld eu meddyg teulu oherwydd eu bod o dan gymaint o bwysau dros y gaeaf.

Dywed cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, Helen Stokes-Lampard, ei bod yn bryderus iawn ynghylch sut y bydd meddygfeydd yn dygymod.

“Nid dim ond adrannau brys ysbytai sydd o dan bwysau,” meddai. “Mae hyn yn cael ei adlewyrchu hefyd mewn meddygfeydd gofal sylfaenol.

“Os byddwn yn rhy brysur yn trin cleifion sy’n sâl ar y diwrnod, y perygl yw y bydd y gwaith o reoli afiechydon cronig a meddyginiaeth ataliol yn cael ei ohirio.

“Ac os bydd hynny’n digwydd, gall y canlyniadau ymhen blynyddoedd i ddod fod yn ddifrifol iawn.”