Richard Adams yn ei 80au hwyr (Andrew RH CCA3.0)
Mae awdur un o’r llyfrau plant enwoca’ wedi marw yn 96 oed.
Fe ddaeth Watership Down hefyd yn llyfr pwysig i amgylcheddwyr gyda’i stori llawn teimlad am deulu o gwningod yn wynebu peryglon o bob math.
Fe gyhoeddodd ei gyhoeddwyr fod yr awdur, Richard Adams, wedi marw yn dawel yn hwyr noswyl Nadolig.
Awdur ar hap
Ar hap yr oedd y cyn-was sifil wedi dod yn awdur, gan gyhoeddi ei gampwaith ar anogaeth ei blant, pan oedd yn 52 oed.
Fe gafodd y llyfr ei droi’n ffilm gartŵn lwyddiannus iawn gyda’r brif gân ynddi, Bright Eyes gan Art Garfunkel, yn rhif un yn y siartiau am chwech wythnos yn 1979.
Mae fersiwn teledu newydd yn cael ei wneud o’r nofel, gyda’r BBC a Netflix yn bwriadu ei dangos yn y flwyddyn nesa’.