Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Lloegr, Sam Allardyce wedi dweud ei fod yn barod i anghofio’r “dyddiau duon” a arweiniodd at ei ymddiswyddiad.

Daw sylwadau ‘Big Sam’ ar ôl iddo gael ei benodi’n rheolwr gan Crystal Palace yn olynydd i Alan Pardew.

Bu’n rhaid iddo roi’r gorau i brif swydd y byd pêl-droed yn Lloegr ar ôl 67 diwrnod yn unig ar ôl gwneud sylwadau amheus am drosglwyddiadau wrth newyddiadurwyr cudd.

Dywedodd y rheolwr 62 oed wrth Sky Sports fod yr helynt yn un o “eiliadau tywyllaf fy ngyrfa”.

“Dw i’n siarad amdanaf fi, fy ngwraig a’m teulu, roedd rhaid i ni gyd ymdrin â’r broblem honno – fy mhlant, fy wyrion yn yr ysgol.

“Ond mae amser yn mynd heibio, ry’ch chi’n dod dros y trafferthion ac yn symud ymlaen. Symud ymlaen, i fi, yw derbyn y swydd hon.”

Bydd y rheolwr newydd wrth y llyw am y tro cyntaf ar Ddydd San Steffan pan fydd ei dîm yn teithio i Watford.

Mae Crystal Palace un pwynt uwchben y tri safle isaf, ar ôl ennill un gêm yn unig allan o’u 11 gêm ddiwethaf.

Daw’r swydd newydd 13 o fisoedd ar ôl iddo dderbyn swydd Sunderland, oedd yn olaf ond un yn yr Uwch Gynghrair ar y pryd.

Ond mae’r rheolwr yn ffyddiog fod sefyllfa Crystal Palace yn well na sefyllfa Sunderland y tymor diwethaf.

“Rhaid i chi ei wneud e, mae’n rhan o’r broses gyflym o geisio gwyrdroi sefyllfa anodd ar y pryd.

“Ond dyw hi ddim yn sefyllfa anodd fel Sunderland, dw i ddim yn meddwl.”

Mae Sam Allardyce wedi ennill enw iddo’i hun fel rheolwr sydd erioed wedi diodde’r siom o gwympo allan o’r Uwch Gynghrair.