Paul Nuttall (Llun: PA/Stefan Rousseau)
Dylid cyflymu’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd a chynyddu’r ddadl tros faint o arian mae Prydain yn ei roi i helpu gwledydd tramor yn 2017, yn ôl arweinydd newydd UKIP, Paul Nuttall.

Manteisiodd ar ei neges Nadoligaidd i bwysleisio nad yw’n credu bod gwerthoedd Prydeinig yn cael eu parchu mewn rhai cymunedau, a bod hynny wedi arwain at ganlyniad refferendwm Ewrop.

Dywedodd: “Gwae unrhyw wleidydd sy’n ceisio sefyll yn y ffordd.”

Ychwanegodd fod “pobol Prydain wedi penderfynu newid cwrs eu gwlad. Fe ddewison nhw lwybr newydd.”

“O fwyafrif bach ond penderfynol, fe ddewison nhw gymryd rheolaeth o benderfyniadau allweddol. Fe benderfynon nhw fod integreiddio gwleidyddol yn Ewrop a holl gyfnod globaleiddio wedi mynd yn rhy bell, gan wagio’u democratiaeth a gadael y rhan fwyaf ohonyn nhw’n waeth eu byd yn ariannol ac yn nhermau ymlyniad eu cymunedau.”

Wrth ymateb i’r ymgais i wyrdroi’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y llysoedd, ychwanegodd Paul Nuttall: “Gwae unrhyw wleidydd sy’n ceisio sefyll yn ffordd penderfyniad a gafodd ei roi i bobol Prydain gan y Senedd pan wnaethon nhw roi sêl bendith i Fil Refferendwm Ewrop.”

Rhybuddiodd y byddai unrhyw aelodau seneddol sy’n ceisio atal Brexit yn ei chael hi’n anodd cael eu hail-ethol.

Ond dywedodd ar yr un pryd na fyddai Brexit yn ddigon i wella’r holl broblemau’r gymdeithas, gan ychwanegu ei bod yn “bryd ail-drefnu blaenoriaethau’r dosbarth llywodraethu”.

Dywedodd ei fod yn disgwyl gweld ad-drefnu’r £12 biliwn sy’n cael ei roi yn gymorth rhyngwladol i wledydd eraill er mwyn helpu henoed gwledydd Prydain, ynghyd â phobol sy’n dibynnu ar fanciau bwyd.

“Dw i’n gweld y bleidlais Brexit fel ymateb cyhoeddus i’r gofidion hynny hefyd. Mae rhybudd gan y bobol fod strategaeth y dosbarth gwleidyddol o fod yn ddall i sarhau gwerthoedd craidd Prydain yn enw amlddiwylliannedd wedi cyrraedd pen y daith.”