Mae plisman wedi ei ddiswyddo ar ôl cael ei ddal yn hysbysebu ei wasanaethau rhywiol ar wefan tra’r oedd i ffwrdd o’i waith yn ‘sâl’.

Dywedodd Heddlu Sussex bod y PC Daniel Moss, 39 oed, wedi “dwyn gwarth ar wasanaeth yr heddlu” ac wedi “tanseilio hyder y cyhoedd” drwy weithio ar y slei yn puteinio ei hun.

Roedd Daniel Moss wedi bod i ffwrdd o’i waith ers mis Medi gyda salwch oedd yn deillio o fod dan bwysau yn ei waith bob dydd.

Ond bu adroddiad ym mhapur newydd The Sun y mis hwn ei fod yn gwerthu profiadau rhywiol, gan gynnwys ‘tri ar y tro’ gyda’i gariad am £210 yr awr, a hynny o wefan.

Wedi ei wahardd o’i waith swyddogol ers yr 2il o Ragfyr, fe gafodd Daniel Moss ei ddiswyddo heddiw gan banel safonau proffesiynol Heddlu Sussex.