Nicola Sturgeon Llun: PA
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi cyhoeddi manylion ei chynlluniau i gadw’r Alban yn y farchnad sengl Ewropeaidd gan ddweud eu bod yn “ymdrech gwirioneddol” i “uno’r wlad gyda chynllun clir.”
Mae’r opsiynau sy’n cael eu hamlinellu yn y papur yn cynrychioli “cyfaddawd sylweddol” ar ran Llywodraeth yr Alban, meddai Nicola Sturgeon
Mae hi wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fod yn hyblyg yn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r ddogfen yn awgrymu y dylai’r Deyrnas Unedig aros yn rhan o’r farchnad sengl ond mae hefyd yn ymdrin â’r posibilrwydd o’r Alban yn aros yn y farchnad sengl heb weddill y Deyrnas Unedig.
Wrth lansio’r papur dywedodd Nicola Sturgeon: “rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos yr un hyblygrwydd a pharodrwydd i gyfaddawdu wrth ystyried y cynigion yma”.
Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street y byddai Llywodraeth San Steffan yn “edrych yn ofalus” ar y papur.
Ond mae Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhybuddio ei fod yn cael ei ddefnyddio gan yr SNP i bwyso am ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.
Mae Nicola Sturgeon wedi ei gwneud yn glir bod yn rhaid i’r Alban aros yn rhan o’r farchnad sengl o dan unrhyw gytundeb Brexit ar ôl i fwyafrif o bobl yr Alban bleidleisio i aros yn rhan o’r Undeb yn y refferendwm ym mis Mehefin.
Mae disgwyl i’r papur gael ei drafod yn fanylach pan fydd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn cwrdd ym mis Ionawr.