Mae pump o gyn-benaethiaid y Gymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA) wedi annog y Llywodraeth i ddiwygio strwythur y corff gan ei gyhuddo o “ddiffyg cydbwysedd” ac o fod a “gormod o hen ddynion gwyn.”

Mae’r cyn-benaethiaid wedi ysgrifennu at Damian Collins, cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, gan ddweud nad yw’r corff yn “cynrychioli cymdeithas Lloegr” ac nad oes ganddyn nhw’r cymwysterau i ddelio gyda rôl yr FA ym myd pêl-droed modern.

Dywedodd David Bernstein, David Davies, Greg Dyke, Alex Horne a David Triesman bod yr FA yn amharod i newid a bod yn rhaid i’r Senedd ymyrryd a chyflwyno deddf a fyddai’n gorfodi’r corff i newid.

Wrth ymateb i’r llythyr dywedodd Damian Collins eu bod yn “rhannu eu pryderon” bod strwythur presennol yr FA “yn ei gwneud yn amhosib i’r corff ddiwygio ei hun.”

Dywedodd bod y pwyllgor yn paratoi Mesur drafft a fyddai’n diwygio strwythur yr FA. Ychwanegodd y byddai’r  pwyllgor yn gofyn am ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin yn galw am bleidlais o ddiffyg hyder yn yr FA.

Mewn datganiad dywedodd yr FA eu bod eisoes yn gweithio ar ddiwygiadau llywodraethol ac y byddai’n parhau i weithio gyda’r cyrff priodol.