Toulon 31–20 Scarlets
Sgoriodd Leigh Halfpenny 16 pwynt wrth i Toulon drechu’r Scarlets yn y Stade Felix Mayol brynhawn Sul.
Mae gobeithion y Cymry o gyrraedd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop fwy neu lai ar ben wedi i’r Ffrancwyr ennill gyda phwynt bonws.
Daeth cais cyntaf y gêm i’r tîm cartref wedi dim ond pum munud, Mamuka Gorgodze yn tirio yn dilyn bylchiad da gan Mathieu Bastareaud. Llwyddodd Halfpenny’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd i ymestyn y fantais i ddeg pwynt wedi deuddeg munud.
Ymatebodd y Scarlets gyda dwy gic gosb o droed Rhys Patchell ond Toulon a gafodd y cais nesaf. Cafwyd gwaith da gan Bastareaud trwy’r canol eto cyn i Halfpenny orffen y symudiad ar y chwith a throsi ei gais ei hun.
Daeth trydydd cais yn fuan wedyn wrth i’r clo, Romain Taofifenua, ymestyn at y gwyngalch.
Yr ymwelwyr o Gymru a gafodd air olaf yr hanner serch hynny wrth i Ken Owens dirio o dan y pyst yn dilyn gwaith da gan y blaenwyr. Ychwanegodd Patchell y trosiad, 24- 13 y sgôr wrth droi.
Roedd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel i’r Ffrancwyr wedi deuddeg munud o’r ail hanner wrth i sgarmes symudol bwerus wthio Guilhem Guirado drosodd am y pedwerydd cais.
Cafodd John Barclay ail gais i’r Scarlets yn y munud olaf ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i Toulon ennill o 31 pwynt i 20.
Mae’r canlyniad yn gadael Bois y Sosban yn drydydd yng ngrŵp 3 gyda phedwar pwynt wedi tair gêm.
.
Toulon
Ceisiau: Mamuka Gorgodze 5’, Leigh Halfpenny 26’, Romain Taofifenua 30’, Guilhem Guirado 52’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 6’, 28’, 32’, 53’
Cic Gosb: Leigh Halfpenny 12’
.
Scarlets
Ceisiau: Ken Owens 36’, John Barclay 79’
Trosiadau: Rhys Patchell 37’, 79’
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 14’, 24’