Mae cyfarwyddwr pêl-droed Crewe Alexandra, Dario Gradi wedi cael ei ddiarddel o’i waith fel rhan o ymchwiliad i honiadau o gamdrin plant ym myd y bêl gron.
Mae wedi’i gyhuddo o fethu ag ymdrin â honiadau o gamdrin plant yn y modd cywir ar ôl mynd at rieni chwaraewr ifanc oedd wedi mynegi pryderon am y sgowt Eddie Heath yn y 1970au.
Roedd yn gweithio i Chelsea ar y pryd, ac fe fydd yn cyflwyno tystiolaeth am y digwyddiad maes o law.
Roedd Eddie Heath wedi cael ei gyhuddo gan rieni bachgen 15 oed o ymosod yn anweddus arno.
Mae lle i gredu nad oedd Dario Gradi wedi dweud wrth rieni’r bachgen fod y clwb yn gwybod am honiadau eraill yn erbyn Eddie Heath.
Ym mis Tachwedd, gwnaeth Dario Gradi wadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Mae Crewe Alexandra hefyd yn cynnal ymchwiliad annibynnol.