Donald Trump (Llun: AP/David Goldman)
Mae darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi cefnu ar gytundeb amgylcheddol a gafodd ei greu pan sefydlodd e gwrs golff yn Sir Aberdeen yn yr Alban, yn ôl adroddiadau.
Mae Sunday Herald yr Alban yn adrodd bod y cytundeb wedi cael ei sefydlu er mwyn atal niwed amgylcheddol i’r ardal lle cafodd y cwrs ei ddatblygu.
Pan gafodd y cwrs ei sefydlu, roedd Donald Trump wedi addo y byddai criw o arbenigwyr yn goruchwylio’r amodau yn y cytundeb oedd yn ymwneud â chadwraeth.
Ond mae’r grŵp wedi dod i ben erbyn hyn, wrth i Donald Trump gael ei gyhuddo o anwybyddu’r system gynllunio dro ar ôl tro ers iddo gael yr hawl yn 2008 i adeiladu’r cwrs.
Bryd hynny, roedd gweinidogion yr Alban wedi ymyrryd ar ôl i’r cais gwreiddiol gael ei wrthod gan Gyngor Aberdeen, ar yr amod fod yr arbenigwyr yn dod at ei gilydd i ystyried goblygiadau’r cynllun i’r amgylchedd.
Ond fe ddaeth i’r amlwg yn y blynyddoedd wedyn nad oedd cynrychiolwyr Donald Trump yn mynd i gyfarfodydd, ac fe ddaeth y grŵp i ben yn 2013.
Cafodd Donald Trump ei atgoffa bryd hynny o’i gyfrifoldebau, ond mae’n debyg iddo anwybyddu’r llythyr gan y cyngor yn ei rybuddio nad oedd hawl ganddo i ddod â’r grŵp i ben heb ganiatâd.
Mae llefarwyr ar ran y darpar Arlywydd yn mynnu nad yw’r cynllun wedi niweidio byd natur yr ardal mewn unrhyw ffordd, yn ôl y Sunday Herald.
Mae’r cwrs wedi cael ei adeiladu ar dwyni tywod sy’n cael eu gwarchod oherwydd eu pwysigrwydd i fyd natur, ac mae Donald Trump wedi cael ei gyhuddo gan gynghorwyr lleol o wfftio pwysigrwydd y twyni i’r ardal leol.
Dydy Llywodraeth yr Alban ddim wedi ymyrryd yn y ffrae, gan ddweud ei fod yn fater i Gyngor Sir Aberdeen.