Llun: PA
Mae’r Llywodraeth wedi bod yn ceisio lleddfu pryderon na fydd Prydain yn gallu aros yn y farchnad sengl ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ôl i nodiadau oedd yn cael eu cario gan un o uwch swyddogion y Blaid Geidwadol awgrymu ei fod yn “annhebygol.”

Mae gweinidogion yn wynebu rhagor o gyhuddiadau nad oes ganddyn nhw strategaeth ar gyfer Brexit, ar ôl i gamera yn Downing Street weld nodiadau mewn llawysgrif a oedd yn dweud: “Beth yw’r model?”

Roedd y nodiadau – sy’n cyfeirio at rai o’r anawsterau tebygol a fydd yn codi yn ystod y broses negydu – yn cael eu cario o dan fraich cynorthwyydd is-gadeirydd y Ceidwadwyr, Mark Field, wrth iddyn nhw ddod allan o gyfarfod gyda’r adran sy’n gyfrifol am Brexit yn 9 Downing Street.