Mae dros hanner o gyfreithwyr Llundain yn bwriadu symud rhan o’u gwaith o’r Deyrnas Unedig ar ôl i Brexit ddigwydd, yn ôl arolwg gan gwmni ymchwil.

Ar hyn o bryd, mae Llundain yn cael ei gweld fel canolfan cyfreithiol fwya’ blaengar Ewrop, ond gall hynny newid wrth i fwy o gyfreithwyr benderfynu troi cefn ar y ddinas.

Roedd y gwaith ymchwil yn dangos bod 58% yn ystyried symud elfennau o’u cwmnïau i rywle yn yr Undeb Ewropeaidd ac y bydd 42% o fusnesau yn symud eu staff ar ôl i Brydain adael yr undeb.

Y ddinas fwya’ boblogaidd ymhlith cyfreithwyr, ac un a allai gystadlu â Llundain, oedd Hambwrg yn yr Almaen.

Mae hyn wedi codi cwestiynau ar ddyfodol economi’r Deyrnas Unedig, gan fod y pum cwmni cyfraith fwya’ yn Llundain yn dod â refeniw rhyngwladol o dros £5 biliwn y flwyddyn.

Holi 

Roedd 86% o’r cyfreithwyr a holwyd yn poeni am effaith Brexit ar faint eu cwmnïau yn y dyfodol a nifer y staff y byddan nhw’n gallu cyflogi.

Roedd un o bob pum cyfreithiwr hefyd ddim yn gweld y bydd cwmnïau yn y Deyrnas Unedig yn gallu masnachu â gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd tra bod Brexit yn digwydd.

Peryglon Brexit

“Mae canlyniadau ein harolwg yn amlygu pryderon sydd yn y Ddinas yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Robert McLeod, Prif Weithredwr MLex, y cwmni a gynhaliodd yr ymchwil.

“Mae’r fframwaith cyfreithiol sy’n llywodraeth sefydliadau ariannol y Deyrnas Unedig yn dod o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, ac mae llawer o’r cwmnïau hynny’n cael budd o ‘basportio’, sy’n eu galluogi i gynnal busnesau â gwledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd [EEA].

“Heb gytundeb pasbortio, gall safle’r Deyrnas Unedig fel canolfan ariannol mwya’r Undeb Ewropeaidd gael ei beryglu gan Brexit.”