Y Prif Weinidog Theresa May yng nghynhadledd y CBI, Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae Theresa May wedi’i chyhuddo o droi cefn ar addewid i sicrhau bod gweithwyr Prydain yn cael lle ar fyrddau cwmnïau.

Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn ceisio lleddfu pryderon busnesau ynglŷn â’r cynlluniau ond mae’r undebau wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad.

Wrth iddi annerch cynhadledd flynyddol arweinwyr busnes Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) dywedodd Theresa May ei bod hi eisiau partneriaeth gyda chwmnïau fel rhan o “ymdrech fawr genedlaethol” ond fe rybuddiodd bod “ymddygiad gwael” carfan fechan o benaethiaid wedi niweidio delwedd y byd corfforaethol.

Dywedodd y Prif Weinidog bod y Llywodraeth yn barod i weithredu i fynd i’r afael a chyflogau uchel ac atebolrwydd ac y byddai’n sicrhau bod gan weithwyr “lais” ar fyrddau cwmnïau ond ei bod am weithio gyda busnesau er mwyn cyflwyno diwygiadau.

Fe fydd y cynlluniau’n cael eu hamlinellu ym Mhapur Gwyrdd y Llywodraeth cyn i gyfnod o ymgynghori ddechrau yn ddiweddarach yn yr hydref.

Mae sylwadau Theresa May yn ymddangos fel ei bod yn troi cefn ar addewidion a wnaeth yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham fis diwethaf.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb y GMB Tim Roache na fyddai ei “haddewidion gwag yn helpu gweithwyr i gael tegwch a pharch yn y gweithle.”

Yn ystod ei hanerchiad i’r CBI bu Theresa May yn amlinellu ei chynlluniau ar gyfer busnesau, gan gynnwys ei nod i sicrhau bod gan y Deyrnas Unedig y dreth gorfforaeth isaf o fewn gwledydd y G20.