Beth fydd yn natganiad hydref y Canghellor Philip Hammond?
Mae disgwyl i Ganghellor San Steffan gyhoeddi yn ei ddatganiad hydref ddydd Mercher y bydd £1.3 biliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer gwella ffyrdd gwledydd Prydain.

Bydd y rhan fwyaf o’r arian yn cael ei ddefnyddio er mwyn lleihau cost tagfeydd, gwella ffyrdd lleol a rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd buddsoddi mewn is-adeiledd ac arloesedd “wrth galon” y cyhoeddiad, yn ôl y Trysorlys.

Ond mae’r Blaid Lafur yn dweud nad yw Llywodraeth Prydain wedi gwireddu nifer o’u haddewidion blaenorol.

#”Cael effaith ar unwaith” yw bwriad Hammond a’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Chris Grayling, meddai’r Trysorlys.

Maen nhw’n dadlau y bydd y buddsoddiad yn ei gwneud hi’n haws ac yn gynt teithio.

Y datganiad

Y disgwyl yw mai rhai o’r prif bolisïau’n unig fydd yn cael eu cyhoeddi yn y datganiad ddydd Mercher, yn hytrach na’r cyhoeddiadau hir a manwl a fu yn y gorffennol.

Dywedodd y Trysorlys y byddai’r datganiad yn “helpu teuluoedd cyffredin sy’n gweithio ac sy’n ei chael yn anodd cael deupen llinyn ynghyd”.

Ac mae disgwyl i Hammond fynd i’r afael â goblygiadau ariannol gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn y refferendwm ym mis Mehefin.

Yn y Sunday Telegraph, dywedodd na fyddai’n gosod baich ariannol ar genedlaethau’r dyfodol.

Addewidion gwag y gorffennol

Ond mae llefarydd economaidd y Blaid Lafur, John McDonnell wedi cyfeirio at sawl addewid gwag gan y Ceidwadwyr yn y gorffennol, gan gynnwys rhaglen gwerth £15 biliwn yn 2014 i wella ffyrdd gwledydd Prydain.

Yn yr Observer, galwodd McDonnell ar Hammond i helpu pobol wrth i brisiau godi yn dilyn Brexit.

Dywed McDonnell y dylai’r cymorth gynnwys cyflwyno’r cyflog byw ac ateb i drafferthion gofal plant.

Galwodd hefyd am wyrdroi toriadau i’r credyd cynhwysol a’r lwfans gwaith.