Mae honiadau wedi dod i’r fei fod cyngres wleidyddol sy’n cynnwys UKIP yn Senedd Ewrop, wedi camddefnyddio arian yr Undeb Ewropeaidd ar ymgais yr arweinydd dros-dro, Nigel Farage, i gael ei ethol yn Aelod Seneddol ym Mhrydain.

Mae The Guardian wedi gweld awdit gan Senedd Ewrop sy’n dangos  camddefnyddio arian honedig. Mae’r papur newydd yn honni y bydd Senedd Ewrop yn gofyn i’r Gyngres er Democratiaeth Uniongyrchol ad-dalu £148,000.  Maen nhw hefyd wedi cael eu rhwystro rhag derbyn €501,000 yn rhagor mewn grantiau Undeb Ewropeaidd, a hynny am dorri’r rheolau ynghylch gwario arian Ewropeaidd ar yr etholiad cyffredinol ym Mhrydain.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gyngres er Democratiaeth Uniongyrchol: “Mae awdurdodau’r Senedd ers misoedd wedi bod yn elyniaethus ac yn ymosodol mewn perthynas â’r awdit, a chredwn ei fod yn ddim mwy nag aflonyddu. Mae hyn yn wyriad o niwtraliaeth.”

Mae’r Gyngres yn dadlau iddi ateb holl ymholiadau Awdit yr Undeb Ewropeaidd: “Yr ydym wedi ymateb i’w cwestiynau gyda gwybodaeth ac eglurhad yn cyfiawnhau ein gweithgaredd a’n gwariant. Maen nhw wedi anwybyddu ein ceisiadau.”

Ffrwyno safbwyntiau

Mae’r Gyngres yn cyhuddo’r Undeb Ewropeaidd o ffrwyno safbwyntiau gwahanol: “Mae’n edrych yn fwy fwy amlwg ers Brexit nad ydi unrhyw beth sydd ddim yn cael ei ystyried fel ‘meddwl ar y cyd’ yn cael ei oddef o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

“Yr ydym yn hyderus fod gwariant (gan eithrio ychydig o eitemau bychain) yn cyd-fynd gyda rheolau’r Undeb Ewropeaidd. Fe fyddwn yn mynd a’r mater i Lys Cyfiawnder Ewrop.”