Cynnydd mewn prisiau dillad ac esgidiau
Roedd chwyddiant wedi gostwng fis diwethaf ar ôl cynnydd bychan mewn prisiau dillad ac esgidiau, yn ôl ffigurau swyddogol.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) sy’n mesur chwyddiant, wedi gostwng o 1% ym mis Medi i 0.9% ym mis Hydref.

Roedd economegwyr wedi darogan y byddai’r ffigwr yn 1.1%.

Dywedodd yr ONS nad oes “unrhyw dystiolaeth glir” bod y gostyngiad yng ngwerth y bunt ers canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd wedi cynyddu’r prisiau mewn siopau.

Roedd Mynegai Prisiau Manwerthwyr (RPI), sy’n fesur ar wahân ar gyfer graddfa chwyddiant ac yn cynnwys costau tai, yn 2% ym mis Hydref, yr un fath a mis Medi.

Yn gynharach y mis hwn fe rybuddiodd llywodraethwr Banc Lloegr Mark Carney y dylai pobl ddisgwyl costau uwch ar ôl i’r Banc ddarogan y bydd chwyddiant yn codi i 2.7% y flwyddyn nesaf.