(Llun: Yui Mok/PA)
Mae cwmnïau ynni wedi cael eu cyhuddo o wneud mwy o elw nag y maen nhw’n ei gyfaddef, yn dilyn ymchwiliad i sefyllfa ariannol y cwmnïau.

Yn ôl ymchwiliad gan bapur newydd The Sun, mae cyflenwyr yn codi gormod ar deuluoedd ac yn gwneud chwe gwaith yr elw na’r hyn maen nhw’n ei gyhoeddi.

Mae’r honiadau yn seiliedig ar adroddiad a gomisiynwyd gan Energy UK sy’n cynrychioli’r cwmnïau ynni, yn ôl cwmni cyfrifwyr PWC.

Yn ôl y papur newydd, mae copi gwreiddiol o’r adroddiad wedi dod i law sy’n dweud bod y gost o gyflenwi nwy a thrydan i gartrefi “llawer yn is” na’r hyn mae teuluoedd yn ei dalu gyda’r Chwe Chwmni ynni mawr.

Honnir bod y  gost i gyflenwyr – fel prynu nwy, cynnal canolfannau galwadau a cheblau trydan – yn £844 y flwyddyn i ddarparu ynni i un cartref yn 2016.

Ond mae’r mwyafrif o deuluoedd gyda’r Chwe Chwmni ynni mawr yn talu cymaint â £1,172 sy’n rhoi elw i’r cwmnïau o £272, yn ôl y papur newydd.

Mae’r papur wedi cyhuddo Energy UK o ddewis a dethol rhannau o’r adroddiad i gyhoeddi ar eu gwefan ond wedi methu a chynnwys y manylion am elw.

Ond mae Energy UK wedi “gwrthod yn llwyr unrhyw awgrymiadau bod yr adroddiad wedi newid elw’r cyflenwyr.”

Mae’r Ysgrifennydd Busnes Greg Clark wedi dweud y bydd yn galw am gyfarfod gydag Energy UK  i drafod y canfyddiadau.