Fe ddylid ymchwilio dau blismon sydd ynghlwm â chwest i farwolaeth aelod o’r IRA a fu farw dros ugain mlynedd yn ôl, meddai cyfreithwyr wrth farnwr yn Llys y Goron Belffast.

Mae cyfreithwyr teulu Pearse Jordan wedi galw am i orchmynion sy’n gwahardd cyhoeddi enwau’r swyddogion M a Q, gael eu dileu, am fod gwybod mwy amdanyn nhw o ddiddordeb cyhoeddus

Y cyhuddiad ydi fod y ddau blismon wedi gwyrdroi cwrs cyfiawnder mewn ymchwiliad llofruddiaeth, a’u bod trwy hynny wedi dweud celwydd ar lw yn ystod cwest. Fe gafodd Pearse Jordan, 22, ei saethu’n farw gan swyddog o’r RUC yn 1992.

Roedd Pearse Jordan wedi bod yn gyrru car wedi’i ddwyn, ac roedd dan amheuaeth o gario arfau i’r IRA, pan gafodd ei saethu. Roedd wedi gwrthod stopio’r car pan gafodd ei orchymyn i wneud hynny gan yr heddlu.

Fe ddaeth y car Ford Orion i stop yn y diwedd ar y Falls Road, a hynny wedi i’r heddlu yrru cerbyd arall i mewn iddo’n fwriadol. Fe gafodd Pearse Jordan ei saethu tra’n ceisio rhedeg i ffwrdd.

Yn gynharach yr wythnos hon, yn y trydydd cwest i farwolaeth Pearse Jordan, fe ddaeth gwybodaeth newydd i’r fei. Dydi’r crwner ddim yn fodlon bod y dyn ifanc wedi’i saethu mewn gwaed oer, nac yn fodlon gyda’r ddadl bod yr heddlu wedi tanio er mwyn amddiffyn eu hunain.