Mae ethol Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn arwydd o fethiant y drefn ariannol sydd yn gwneud bywyd yn anodd i’r rhan fwya’ o bobol, meddai arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Mi fydd nifer o bobol yng ngwledydd Prydain wedi cael sioc o weld canlyniad yr etholiad, meddai, ac fe fyddan nhw hefyd yn credu bod polisïau Donald Trump yn anghywir… ond ar yr un pryd, meddai, fe fyddan nhw’n deall dicter pobol gyffredin.

Dyna pam y dylai’r hyn sy’n digwydd yn America fod yn rhybudd i weddill y byd, meddai Jeremy Corbyn.

“Mae ethol Trump yn ymateb i’r sefydliad gwleidyddol ac i’r sustem ariannol sydd ddim yn gweithio i’r rhan fwya’ o bobol,” meddai.

“Mae’r drefn wedi creu byd anghyfartal, a sefyllfa lle mae safonau byw yn cwympo i’r rhan fwya’ o bobol yn yr Unol Daleithiau ac yng nghwledydd Prydain.

“Mae canlyniad yr etholiad yn ffordd y bobol o ddweud eu bod nhw’n ymwrthod â’r elît sy’n rheoli bob peth, a’r rheiny sydd heb wrando.

“Wedi’r rhybudd byd-eang yma, mae angen newid go iawn i’r sustem economaidd a gwleidyddol, ac mae’n rhaid seilio’r newid ar gydweithio, ar gyfiawnder cymdeithasol ac ar adfywio, yn hytrach na chodi ofn.”