LLun: PA
Mae dau garcharor wedi dianc o Garchar Pentonville yng Ngogledd Llundain.

Nid yw’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau’r manylion hyd yn hyn ond dywedodd heddlu Scotland Yard bod swyddogion wedi’u galw yno toc cyn hanner dydd heddiw.

Yn ôl adroddiadau roedd y ddau garcharor wedi dianc ar ôl defnyddio offer arbennig  i dorri drwy fariau eu cell.

Mae Carchar Pentonville yn dal 1,200 o ddynion sy’n garchar Fictorianaidd categori B ac fe agorodd yn 1842.

Fe gafodd y carchar ei ddisgrifio  gan y cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove fel “methiant anhygoel”.

Bu fawr Jamal Mahmoud, 21 oed, ar ôl cael ei drywanu yn y carchar mewn ymosodiad ar Hydref 18, a chafodd dau ddyn arall eu hanafu.

Fe wnaeth y farwolaeth esgor ar alwadau am ymchwiliad i gyflwr carchardai yng Nghymru a Lloegr, gyda theulu Jamal Mahmoud yn cyhuddo awdurdodau’r carchar o’i esgeuluso.

Daw’r datblygiadau diweddaraf yn dilyn  terfysg yng ngharchar Bedford dros y Sul.