Mae rhybudd heddiw nad oes gan feddygon teulu ddigon o amser i ofalu am gleifion terfynol wael yn iawn.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu fod llawer o ddoctoriaid wedi codi pryderon dros bwysau gwaith a diffyg adnoddau, sy’n golygu nad oes amser i ofalu am gleifion sy’n marw yn “effeithiol.”

Mae arolwg gan y Coleg a’r elusen Marie Curie yn dangos bod 83% o feddygon teulu yn credu bod rhoi mwy o amser i gleifion terfynol wael yn flaenoriaeth er mwyn gwella gofal diwedd oes.

Mae diffyg adnoddau i roi mwy o amser i gleifion yn bryder mawr i’r rhan fwyaf o ddoctoriaid, yn ôl yr arolwg.

Dywedodd 46% mai dim ond apwyntiadau 10 munud roedden nhw’n gallu cynnig i gleifion ar ddiwedd ei hoes, gyda 71% o’r 184 o feddygfeydd a holwyd yn dweud y dylai’r slotiau hyn fod yn fwy nag 20 munud.

Dywedodd traean o’r meddygon a holwyd y bydden nhw’n hoffi cael dros 40 munud gyda chleifion sy’n marw.

Galw am weithredu

O ganlyniad i’r arolwg, mae Marie Curie wedi galw am gomisiwn ledled gwledydd Prydain i ystyried sut fydd gofal sylfaenol yn rhoi mwy o amser ac adnoddau i feddygon teulu i ddarparu gofal diwedd oes o ansawdd.

“Gyda disgwyl i nifer y bobol derfynol wael a fydd angen cefnogaeth eu meddygon teulu gynyddu, mae hyn yn broblem sydd angen ei thaclo nawr,” meddai cadeirydd y Coleg Brenhinol, yr Athro Maureen Baker.

“Rydym felly’n cefnogi galwad Marie Curie am gomisiwn i ystyried adnoddau meddygfeydd er mwyn darparu gofal gwych.”

Dywedodd cyfarwyddwr polisi a materion cyhoeddus Marie Curie, Simon Jones, “Mae’r galw heb ei debyg o’r blaen am wasanaethau gofal sylfaenol yn un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu ein system iechyd gofal heddiw ac mae goblygiadau penodol i’r sawl sy’n dod at ddiwedd eu hoes.”

“Yn wir, mae gofalwyr yn dweud wrthym fod saith o bob 10 person sydd â chlefyd terfynol ddim yn cael y gofal a’r gefnogaeth y maen nhw ei angen. Os ydym am osgoi argyfwng, mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn gwneud hyn yn flaenoriaeth.”