Mae Aelodau Cynulliad wedi rhoi cymeradwyaeth unfrydol i gytundeb Paris, sef y cytundeb rhwng gwledydd y Cenhedloedd Unedig ar geisio lleihau newid yn yr hinsawdd erbyn 2020.

Mae’r cytundeb yn gofyn i aelodau ymdrechu i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi, symud i ffwrdd o danwyddau ffosil a chynyddu ynni adnewyddadwy, a newid y ffordd y gwneir penderfyniadau ledled y llywodraeth fel eu bod ystyried cenedlaethau’r dyfodol.

Yn y Senedd heddiw, mae ACau wedi cymeradwyo’r cytundeb ac wedi galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, i fynd â’r neges honno gyda hi i gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd sy’n dechrau ym Marrakech yr wythnos nesa’.

Wrth groesawu’r gymeradwyaeth drawsbleidiol, dywedodd Cadeirydd Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru Haf Elgar: “Mae cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol i Gytundeb Paris yn neges gref bod Cymru’n dal i fod o ddifri’ ynghylch gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

“Yr hyn rydyn ni ei angen yn awr yw cynllun gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyrraedd y targed o gwtogi ar allyriadau 40% erbyn 2020 a chreu economi carbon isel. Ac rydyn ni angen i hyn gael ei weithredu trwy holl waith ac adrannau Llywodraeth Cymru.”