Mae cymdeithas feddygol y BMA wedi galw am sefydlu llinell gymorth 24 awr i helpu cleifion sy’n gaeth i gyffuriau presgripsiwn.

Maen nhw’n dweud y gallan nhw fynd i’r afael â sgil effeithiau cyffuriau cryfion sy’n cael eu rhoi yn y tymor byr er mwyn trin insomnia ac anhwylderau pryder.

Maen nhw’n awyddus i sicrhau eu bod nhw’n cael eu rhoi dros gyfnod hwy o amser.

Yn ôl arweinydd polisi’r BMA, Dr Andrew Green, mae dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yn “broblem eang”, ac fe alwodd am “ddylunio gwasanaethau penodol” yn hytrach na chyfeirio cleifion at glinigau sydd hefyd yn trin defnyddwyr cyffuriau megis cocên neu fethadôn.

Dywedodd wrth raglen BBC Breakfast: “Mae’r sefyllfa wedi cael ei gwaethygu oherwydd maen nhw wedi dod i’r Gwasanaeth Iechyd am gymorth ac maen nhw wedi canfod nad yw’r gwasanaethau ar gael iddyn nhw.

“Ry’n ni hyd yn oed wedi cael rhai cleifion yn dweud eu bod nhw’n cael y bai am y sefyllfa maen nhw ynddi.”