Mae Llywodraeth yr Alban wedi galw am gael bod yn “bartner cydradd” yn y trafodaethau am Brexit ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May alw am berthynas “aeddfed” gyda’r llywodraethau datganoledig.

Bydd May yn cynnal cyfarfod gydag arweinwyr yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ddydd Llun i drafod manylion y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y Pwyllgor Cyd-Weinidogol yn cwrdd am y tro cyntaf ers y refferendwm ar Fehefin 23, ac mae disgwyl i’r trafodaethau ganolbwyntio ar gydweithio rhwng llywodraethau gwledydd Prydain i sicrhau’r cytundeb gorau.

Ond mae un o weinidogion yr Alban, Michael Russell wedi mynegi pryderon am “Brexit caled”, gan alw ar May i gyflwyno opsiwn newydd.

“Mae angen i lywodraeth y DU ddeall bod mandad triphlyg i gynnal perthynas yr Alban ag Ewrop a’i chadw o fewn Ewrop.

“Mae angen parchu safbwyntiau pobol yr Alban, llywodraeth etholedig yr Alban a Senedd yr Alban a gafodd eu mynegi’n glir.

“Ond pedwar mis ar ôl y refferendwm, dydyn ni ddim eto wedi gweld cynnig gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y bydd ystyriaeth o safbwyntiau pobol yr Alban.

“Mae Llywodraeth yr Alban yn gynyddol ofidus fod y DU yn symud tuag at Brexit caled gyda’r holl niwed fydd yn ei achosi i economïau’r Alban a’r DU.

“Mae’r Prif Weinidog wedi gosod y cloc ac mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ddefnyddio’r amser cyn cychwyn Cymal 50 i ymgysylltu go iawn â’r holl weinyddiaethau datganoledig a dangos eu bod yn fodlon ac yn gallu trin yr Alban fel partner cydradd.”

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi llunio dogfen ddrafft ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth yn sgil Brexit, ond mae Llywodraeth Prydain yn mynnu nad oes ganddyn nhw fandad ar gyfer refferendwm newydd.

Bydd Nicola Sturgeon, Arlene Foster, Martin McGuinness, Carwyn Jones ac Alun Cairns yn y cyfarfod ddydd Llun.