Steven Woolfe
Mae un o gyn-ymgeiswyr am arweinyddiaeth UKIP yn y Deyrnas Unedig, Steven Woolfe , wedi cyhoeddi ei fod yn gadael ei blaid.

Daw hyn yn dilyn ffrwgwd diweddar rhyngddo yntau â’i gyd Aelod Seneddol Ewropeaidd Mike Hookem yn Strasbourg yn ddiweddar.

Cafodd Steven Woolfe ei gludo i’r ysbyty ar Hydref 6, gan honni iddo lewygu ar ôl cael ei daro gan ei gyd-aelod, ac mae wedi cyfeirio’r achos at yr heddlu.

Mae Mike Hookem wedi gwadu’r honiadau, gan daro’n ôl ar Steven Woolfe a’i gyhuddo o ymuno â thrafodaethau gyda’r Ceidwadwyr.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd Steven Woolfe fod UKIP – heb arweinyddiaeth Nigel Farage – yn “afreolus,” ac y byddai bellach yn parhau fel Aelod Seneddol Ewropeaidd annibynnol.

Pwy fydd yr arweinydd nesaf?

Yn ei lythyr ymddiswyddo dywedodd Steven Woolfe, “dw i wedi dod i’r casgliad fod UKIP yn afreolus heb arweinyddiaeth Nigel Farage ag achos y refferendwm i’w uno.

“Mae’r ffordd y cefais i fy nhrin gan aelodau o fy mhlaid fy hun yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth dros yr haf a’r digwyddiadau sydd wedi arwain at heddiw wedi cyfrannu at fy mhenderfyniad,” meddai.

Steven Woolfe oedd y ceffyl blaen i gymryd yr awenau fel arweinydd UKIP wedi i Diane James roi’r gorau iddi ar ôl 18 diwrnod wrth y llyw.

Bydd arweinydd newydd UKIP yn cael ei gyhoeddi ar Dachwedd 28, gyda dyddiad cau’r enwebiadau ar Hydref 31.