Mae tad yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson wedi ymuno yn y galwadau i aelodau seneddol i gael pleidlais ar union amodau Brexit cyn esgor ar ar Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn groes i farn ei fab ar y ffordd ymlaen i Brydain, dywedodd Stanley Johnson, wrth ysgrifennu i BrexitCentral fod angen pleidlais cyn gynted ag y bo modd.

“Mewn gwirionedd, os yw’r Senedd yn cael llais yn y mater hwn, fe ddylai llais y Senedd gael ei glywed rwan, cyn fod erthygl 50 sy’n daflegryn rhyng-gyfandirol yn cael ei saethu,” meddai.

Mae Stanley Johnson yn amau fod hi’n annoeth i beidio ymgynghori gyda’r Senedd rwan.

“Fe all fod yn bosib yn gyfreithiol i’r Llywodraeth esgor ar Erthygl 50 heb ymgynghori gyda’r Senedd, ond ydi o’n ddoeth i wneud hynny? Ai dyma’r beth sydd gan y bobol sydd o blaid gadael mewn golwg pan oedden nhw’n sôn am adfer sofraniaeth seneddol?”

Mae’n gwneud ei sylwadau ar ddechrau her gyfreithiol i rwystro’r Prif Weinidog, Theresa May, rhag gweithredu Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd heb ganiatâd Senedd Prydain.