Fe fydd yna achos cyfreithiol yn dechrau heddiw i herio’r broses i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ymgyrchwyr yn ymladd yn y llysoedd i rwystro Theresa May rhag esgor ar erthygl 50 Cytundeb Lisbon i adael yr Undeb Ewropeaidd, heb bleidlais yn Senedd Prydain.

Mae cyfreithwyr ar ran y Llywodraeth yn dadlau fod y Prif Weinidog yn gallu defnyddio uchelfraint brenhinol i ddechrau Brexit.

Fe wnaeth Theresa May gyhoeddi yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol y byddai’n dechrau’r broses i adael cyn diwedd mis Mawrth.

Mae’r achos yn cael ei ddwyn o flaen y llys gan philanthropydd a’r banciwr yn y farchnad ariannol, Gina Miller sy’n byw yn Llundain, a bleidleisiodd i aros yn y refferendwm ar Fehefin 23.

Maent yn dadlau fod gweithredu’r uchelfraint brenhinol yn effeithio ar yr hawliau a sefydlwyd gan Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972, sy’n rhan o Gyfraith Prydain, a dim ond y ddwy senedd sydd a’r pwer sofran i ddiddymu’r ddeddf honno.

Ond dywedodd Twrne Cyffredinol, Jeremy Wright, “Fe wnaeth y wlad bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn refferendwm wedi’i awdurdodi gan ddeddf seneddol.”