Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi cael ei feirniadu wrth iddo fynd ati i ad-drefnu ei gabinet cysgodol.

Mae cadeirydd y blaid, John Cryer yn honni na chafodd yntau na chyn-Brif Chwip y blaid, Rosie Winterton wybod am y newidiadau ymlaen llaw.

Collodd Winterton ei swydd yn y broses ad-drefnu.

Anfonodd Cryer lythyr at aelodau seneddol yn dweud bod y ddau ohonyn nhw yn y tywyllwch wrth i’r newidiadau gael eu gwneud.

“Fe gawson ni nifer o gyfarfodydd, yn fwyaf diweddar yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur ac roedden ni’n wirioneddol obeithiol y gallen ni ddod i gytundeb a fyddai gobeithio yn tynnu’r Blaid Lafur Seneddol ynghyd fel y gallen ni fod wedi symud ymlaen mewn modd mwy unedig nag y gwnaethom hyd yma.”

Ychwanegodd ei fod ef a Winterton wedi ceisio cynnal cyfarfodydd gyda Corbyn i drafod y mater, ond nad oedd yr arweinydd wedi cynnal y trafodaethau “mewn modd adeiladol”.

Ond fe ddywedodd llefarydd ar ran Corbyn ei fod yn barod i gael y trafodaethau hynny cyn i bwyllgor gwaith y blaid wneud penderfyniad terfynol fis nesaf.

Yn ystod y broses, cafodd dirprwy Corbyn, Tom Watson ei benodi’n Ysgrifennydd Diwylliant cysgodol.

Cafodd John McDonnell (Canghellor cysgodol) ac Emily Thornberry (Ysgrifennydd Tramor cysgodol) gadw eu swyddi nhw.

Mae nifer o fewn y blaid yn anhapus â phenodi dau o gynghreiriaid honedig Corbyn, ynghyd â Diane Abbott yn Ysgrifennydd Cartref cysgodol.

Ond mae Corbyn yn mynnu fod y cabinet cysgodol yn “gryf ac amrywiol”.