Steven Woolfe
Mae Cadeirydd UKIP wedi cyfaddef y bydd hi’n anodd dod o hyd i’r gwir am y ffrwgwd rhwng dau o Aelodau Seneddol Ewropeaidd (ASE) y blaid.

Yn ôl Paul Oakden nid oes yr un tyst i’r ffracas rhwng Steven Woolfe, y ffefryn i arwain UKIP, a Mike Hookem.

Yn ôl rhai adroddiadau roedd Steven Woolfe wedi cael dwrn a tharo ffrâm drws.

Dwy awr wedi’r cyfarfod tanllyd o ASE UKIP, fe gwympodd Steven Woolfe i’r llawr yn y Senedd Ewropeaidd yn Strasbourg.

Cadeirydd y blaid sy’n arwain yr ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd.

“Rydw i wedi siarad gyda phobol oedd yno ac mae popeth rwy’n cael gwybod ar y funud yn awgrymu nad oedd unrhyw dystion. Mae hyn am fod yn broblem,” meddai Paul Oakden wrth y BBC.

Gobaith Cadeirydd UKIP yw y bydd y ddau ASE “yn derbyn fod rhywbeth wedi digwydd ddoe oedd yn anffodus, ac y byddan nhw, fel ni gyd, eisiau symud ymlaen o hyn a chanolbwyntio ar ethol arweinydd newydd”.