Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Cartref, yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham Llun: Stefan Rousseau/PA Wire
Mae Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cynlluniau newydd heddiw i fynd i’r afael â mewnfudo anghyfreithlon i Brydain.

Yn ei haraith gyntaf fel Ysgrifennydd Cartref yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym Mirmingham, dywedodd Amber Rudd ei bod yn bwriadu lleihau’r nifer sy’n mewnfudo’n anghyfreithlon, ond rhybuddiodd na fyddai hynny’n “digwydd dros nos.”

Mae hefyd wedi cyhoeddi y byddai’n cyflwyno cyllideb o £140 miliwn i hwyluso’r straen ar wasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd lle mae lefelau uchel o fewnfudo.

“Bydd y cyllid yn helpu’r gwaith rydym wedi’i wneud i gefnogi awdurdodau lleol – i roi’r gorau i roi budd-daliadau i bobol nad sydd â hawl i fod yn y wlad, i leihau nifer y mewnfudwyr anghyfreithlon sy’n cysgu ar y stryd ac i fynd i’r afael â landlordiaid twyllodrus sy’n cartrefu mewnfudwyr anghyfreithlon mewn amodau gwarthus,” meddai.

Gwiriadau i yrwyr tacsi a myfyrwyr…

Mae ei chynllun wedi’i rannu’n dair rhan, lle bydd yn delio â mewnfudwyr anghyfreithlon drwy landlordiaid, cyflogwyr a bancwyr.

“Ar ôl Rhagfyr, fe fydd landlordiaid sy’n ymwybodol eu bod yn rhentu eiddo i bobol nad sydd â hawl i fod yma yn cyflawni trosedd. Fe allen nhw fynd i garchar,” meddai.

“Hefyd ar ôl Rhagfyr, fe fydd gwiriadau mewnfudo yn ofyniad gorfodol i’r rheiny sy’n ceisio am drwydded i yrru tacsi.

“Ac ar ôl yr hydref nesaf, bydd rhaid i fanciau wneud gwiriadau rheolaidd i sicrhau nad ydynt yn darparu gwasanaethau bancio hanfodol i fewnfudwyr anghyfreithlon.”

Yn ogystal, esboniodd y bydd gweinidogion yn lansio ymgynghoriad i benderfynu a ddylai busnesau a phrifysgolion gynnal gwiriadau newydd cyn cyflogi gweithwyr a chynnig lle i fyfyrwyr o dramor.

Amlinellodd y byddai’r cynlluniau hefyd yn golygu y gallai troseddwyr o dramor sy’n aildroseddu gael eu gwahardd o Brydain am bump neu ddeng mlynedd.