Y Canghellor Philip Hammond
Mae economi Prydain yn wynebu “ansefydlogrwydd” dros y ddwy flynedd neu fwy nesaf, wrth i’r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd ddechrau.

Dyna  rhybudd y Canghellor Philip Hammond yn ei araith yng nghynhadledd y blaid Geidwadol yn Birmingham heddiw.

Dywedodd fod yr “ansefydlogrwydd” y mae’n ei ddisgwyl wedi ei orfodi i wrthod cynllun ei ragflaenydd, George Osborne, i leihau’r diffyg ariannol erbyn diwedd y ddegawd hon.

Cadarnhaodd hefyd y byddai Datganiad yr Hydref ym mis Tachwedd eleni yn gosod fframwaith bolisi newydd i fynd i’r afael â’r amodau newydd y mae Prydain yn eu hwynebu, gan roi mwy o le i’r Llywodraeth fenthyg er mwyn buddsoddi.

Er hyn, pwysleisiodd nad oedd hyn yn golygu troi cefn ar ddisgyblaeth ariannol, gyda’r cynllun newydd yn parhau gyda’r “dasg o atgyfnerthu cyllidol” gan barhau â rheolau ar wario cyhoeddus.

Eisoes mae Theresa May wedi cyhoeddi y bydd y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd yn dechrau mis Mawrth nesaf.

‘Ansefydlogrwydd’

Dywedodd Philip Hammond wrth raglen BBC Breakfast: “Mae’n rhaid inni fod yn barod am ychydig o ansefydlogrwydd wrth fynd trwy’r broses negydu.

“Fe fydd cyfnod o rai blynyddoedd neu efallai’n hwy, lle bydd busnesau’n ansicr ynglŷn â’u cyflwr terfynol o’n perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Drwy’r cyfnod hwnnw mae angen inni gefnogi’r economi i wneud yn siŵr fod hyder y cwsmer yn parhau, a bod hyder busnesau yn gyson fel ein bod yn cael y buddsoddiadau i gadw swyddi ym Mhrydain.”

Dywedodd hefyd ei fod yn cefnogi’r angen i sicrhau cytundeb newydd mor fuan â phosib er mwyn “adennill sicrwydd yn ein heconomi.”

‘Dewis ideolegol oedd llymder’

Wrth ymateb i araith Philip Hammond, dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru:

“Ers y cwymp ariannol yn 2008, mae Plaid Cymru wedi dadlau fod y toriadau enfawr sydd ynghlwm a llymder yn wrthgynhyrchiol.

“Mae’r toriadau hynny wedi arwain at gau cyfleusterau a cholli gwasanaethau lleol hanfodol mewn gormod o gymunedau. Mae ein hamgylchedd lleol wedi ei ddifrodi hefyd ac mae nifer o bobl yn wynebu cyflogau isel a chyfleoedd prin.

“Mae’r ffaith fod y Canghellor heddiw wedi anwybyddu targedau ei ragflaenydd yn dangos mai dewis ideolegol oedd llymder, nid rhywbeth angenrheidiol, ar hyd yr adeg.

“Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn benderfynol o dorri’n ddyfnach. Ni all ein sector cyhoeddus gymryd mwy o hyn.

“Mae Plaid Cymru wedi mynnu o’r cychwyn mai cynyddu buddsoddiad mewn isadeiledd yw’r ffordd fwyaf uniongyrchol a chyfrifol o greu swyddi a sicrhau twf economaidd.”