Ben Needham Llun: PA
Ar ynys Kos yng Ngwlad Groeg, mae’r heddlu wedi ail-ddechrau cloddio safle yn y chwilio am Ben Needham a ddiflanodd chwarter canrif yn ôl.
Dywed yr heddlu eu bod nhw’n “optimistaidd” y bydd yn rhoi atebion iddyn nhw ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd i’r plentyn 21 mis oed.
Mae ymchwiliad newydd wedi awgrymu y gallai Ben Needham fod wedi cael ei ladd gan gloddiwr ger ffermdy yr oedd ei nain a’i daid yn ei adfer ym mis Gorffennaf 1991.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jon Cousins o Heddlu De Swydd Efrog bod y tîm o 19 o swyddogion yn disgwyl dod o hyd i “gannoedd” o esgyrn, ac fe fydd pob un yn cael ei astudio mewn labordai pan fyddan nhw wedi cael eu codi o’r ddaear.
Ond nid yw wedi diystyru’r posibilrwydd y gallai Ben Needham fod yn fyw o hyd a’i fod yn cadw “meddwl agored.”