Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi amddiffyn ei weinidogion yn dilyn honiadau o wrth-Semitiaeth.

Wrth gyhoeddi ei fod yn gadael y blaid, dywedodd yr Arglwydd Mitchell fod gan Corbyn gydweithwyr “gwrth-Semitaidd” o’i gwmpas.

Fe gyhuddodd Corbyn o beidio â mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Ond mae Corbyn unwaith eto wedi mynnu bod y blaid yn unedig wrth wrthwynebu “unrhyw fath o wrth-Semitiaeth, unrhyw fath o hiliaeth”.

Serch hynny, dywedodd yr Arglwydd Mitchell fod y blaid wedi colli ei ffordd o dan Corbyn a’i bod hi “ar ben” arnyn nhw.

Dywedodd yr Arglwydd Mitchell, oedd yn llefarydd busnes y blaid o dan Ed Miliband, wrth raglen ‘Sunday Politics’ y BBC: “Does gan Jeremy ddim rhinweddau arweinydd o gwbl, mae ei griw bach e’n ei hoffi ac maen nhw’n credu mai fe yw’r Meseia, ond fydd e byth yn dod yn arweinydd a phrif weindiog y wlad hon.”

Mynnodd yr Arglwydd Mitchell nad yw’n bwriadu ymuno â phlaid arall, ond nad oedd yn barod i gael ei alw’n “fradwr” am fynegi barn.

“Dw i’n Iddew ac yn Iddew cryf iawn a dw i ddim yn cuddio hynny, a does dim amheuaeth yn fy meddwl i fod Jeremy ei hun yn chwit-chwat am y pwnc, dydy e byth wedi beirniadu gwrth-Semitiaeth yn hallt fel y dylai, a phan fo’n gwneud sylw, mae’n ei gyfuno â mathau eraill o hiliaeth, felly fydd e byth yn siarad yn benodol am wrth-Semitiaeth.”

Wfftio

Mae Jeremy Corbyn wedi wfftio sylwadau’r Arglwydd Mitchell.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Mae’n anffodus ei fod yn dweud hynny oherwydd dydy e ddim yn sylw teg a gobeithio y bydd e’n meddwl am hynny oherwydd mae’n amlwg fod gwahanol safbwyntiau o fewn y blaid ar faterion yn y Dwyrain Canol, ond mae undod llwyr yn y blaid wrth wrthwynebu unrhyw fath o wrth-Semitiaeth, unrhyw fath o hiliaeth yn y blaid. Mae hynny’n glir iawn.”