Mae un o gyn-weinidogion Llafur wedi rhybuddio y gall hi fynd yn “ryfel” o fewn ei phlaid os na fydd Jeremy Corbyn yn dod â thrafodaethau dros ddad-ethol Aelodau Seneddol i ben.

Jeremy Corbyn yw’r ffefryn i ennill y ras rhyngddo ef ac Owen Smith, AS Pontypridd, am yr arweinyddiaeth yfory.

Ac mae Caroline Flint wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i gefnogwyr y ddwy ochr wneud eu gorau i weithio gyda’i gilydd.

“Os bydd Jeremy yn cael ei ail-ethol, yna dylai ASau fod yn adeiladol a gweithio’n galed i gefnogi meinciau blaen Llafur – ond mae’n rhaid i Jeremy wneud rhai pethau hefyd,” meddai Caroline Flint ar raglen Good Morning Britain.

“Dw i’n meddwl bod yn rhaid iddo sicrhau bod y siarad am ddad-ethol ASau yn stopio achos fydd hynny ond yn arwain at ryfela, nid undod.

“Dw i’n meddwl, ar ôl dydd Sadwrn, yr hyn sy’n bwysig iawn yw bod Jeremy yn gallu dangos ei fod yn gallu uno’r blaid a gobeithio y bydd yn dangos ei fod yn barod i wrando nid yn unig ar y rhai a gefnogodd e, ond y bobol wnaeth ddim ei gefnogi

“Achos mae o fudd i ni gyd i ffurfio gwrthblaid effeithiol i wneud y Llywodraeth yn atebol, a dw i’n gobeithio y bydd e’n arwain drwy geisio cyrraedd [pawb yn y blaid].”