Jeremy Corbyn yn wynebu her gan Owen Smith
Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Alan Johnson wedi annog gwrthwynebwyr Jeremy Corbyn i barhau i’w danseilio er mwyn “adennill” y blaid.

Yn ôl Aelod Seneddol Gorllewin Hull a Hessle, mae Corbyn yn “analluog” a “hunan-gyfiawn”.

Dywedodd Johnson fod cefnogwyr Corbyn yn “ormesol” ac fe wnaeth eu cymharu â chefnogwyr cerddoriaeth werin Bob Dylan “pan aeth yn electronig”.

Ac mae Johnson wedi annog gwrthwynebwyr Corbyn i barhau i’w danseilio os bydd yn cael ei ail-ethol yn arweinydd yr wythnos nesaf yn erbyn Owen Smith.

Dywedodd Johnson wrth bapur newyd y Times: “Maen nhw wedi cipio’r castell.

“Yn yr un modd ag y gwnaeth y criw Campaign flwyddyn ar ôl blwyddyn yn tanseilio pwy bynnag oedd arweinydd y Blaid Lafur ar y pryd hyd eithaf eu gallu, rhaid i ni wneud yr un fath.

“Rhaid i ni adennill y blaid hon unwaith eto, neu mi fydd hi’n marw ac ar ben ac wedi mynd.”

Dywedodd fod perfformiad Corbyn yn ystod refferendwm Ewrop yn “ofnadwy”, gan awgrymu y gallai Corbyn fod wedi pleidleisio o blaid gadael yn sgil ei newid agwedd yn ystod yr ymgyrch.

“Mae’n bosib y gallai e fod wedi gwneud. Fyddwn i ddim yn synnu ond roedd e fwy na thebyg yn fwy niwtral.”

Ychwanegodd Johnson fod y gefnogaeth dosbarth canol y mae Corbyn yn ei chael “wedi mynd i’w ben”.