Mae’r dinistr a achoswyd gan storm Desmond y gaea’ diwetha’, wedi rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd meddwl Ardal y Llynnoedd, meddai Aelod Seneddol yr ardal.

Mae’r aelod Llafur, Sue Hayman, sy’n cynrychioli Workington, yn dweud fod nyrs iechyd meddwl wedi dod ati yn poeni am y “straen” ar y gwasanaeth o ganlyniad i’r tywydd gwael.

“Dw i wedi cael clywed yr wythnso hon fod y gyfradd hunanladdiad yn cynyddu’n gynt yn Cumbria nac mewn unrhyw ran arall o Brydain,” meddai Sue Hayman wrth Dy’r Cyffredin.

“A gawn ni drafodaeth er mwyn gweld beth ellir ei wneud am hyn?” meddai wedyn. “Nid yn unig i gefnogi ein gwasanaethau iechyd meddwl, ond i ystyried beth ydi anghenion etholaethau pan maen nhw’n cael eu taro gan greisis fel hyn.”